Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
15 Chwefror 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12618
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Datganiad y Llywydd
Gwnaeth y Llywydd, ar ran y Senedd, ddatganiad yn estyn cydymdeimlad â theulu a chyfeillion Comisiynydd y Gymraeg a’r cyn-Aelod, Aled Roberts. Galwodd y Llywydd ar y Prif Weinidog a chynrychiolwyr y pleidiau eraill i wneud cyfraniadau.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.40
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.35.
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19
Dechreuodd yr eitem am 14.57
4 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 15.28
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.55 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.
5 Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 9A) 2022
Dechreuodd yr eitem am 16.02
NDM7917 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 9A) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Ionawr 2022.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) (Diwygio) 2022
Dechreuodd yr eitem am 16.17
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7920 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) (Diwygio) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2022.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
14 |
0 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
7 Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022
Dechreuodd yr eitem am 16.24
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7919 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2022.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
15 |
0 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
8 Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022
Dechreuodd yr eitem am 16.28
NDM7921 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2022.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2022
Dechreuodd yr eitem am 16.31
NDM7918 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2022 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2022.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
10 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal
Dechreuodd yr eitem am 16.37
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7913 Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau yn y Bil Iechyd a Gofal i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Awst 2021 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2021 a 28 Ionawr 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil Iechyd a Gofal (Saesneg yn unig)
Dogfennau
Ategol
Adroddiad
y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Adroddiad
y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (memoranda rhif 2 a rhif
3)
Ymateb Llywodraeth Cymru
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
(memoranda rhif 2 a rhif 3)
Ymateb Llywodraeth Cymru
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
11 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
11 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol
Dechreuodd yr eitem am 17.00
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7915 Jeremy Miles (Castell-nedd)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cymwysterau Proffesiynol sy'n ymwneud â diogelu ymreolaeth rheoleiddwyr ac ymgynghori â rheoleiddwyr, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Rhagfyr 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil Cymwysterau Proffesiynol (Saesneg yn unig)
Dogfennau
Ategol
Adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion
Gwledig
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
39 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig.
12 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau
Dechreuodd yr eitem am 17.20
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7922 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau yn y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Rhagfyr 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil Cenedligrwydd a Ffiniau (Saesneg yn unig)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
39 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig.
13 Dadl: Setliad yr Heddlu 2022-23
Dechreuodd yr eitem am 17.57
NDM7916 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2022-23 (Setliad Terfynol Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2022.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.17 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
14 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.21
Crynodeb o Bleidleisiau
Daeth y cyfarfod i ben am 18.25
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 16 Chwefror 2022